Ariannu

Yn OCR Cymru, rydym yn gwybod mor bwysig yw ariannu i chi. Rydym yn gwerthfawrogi'r effaith y mae ariannu'n ei chael ar gynlluniau ysgol, coleg neu darparwr hyfforddiant, ac rydym yn cydweithio gydag asiantaethau ariannu gymaint â phosib.

Sut y mae ariannu'n gweithio

Mae’r holl gymwysterau a gymeradwywyd gan LlCC yn gymwys ar gyfer cyllid ac wedi’u rhestru yng Nghronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru (DAQW).

Mae’r cyllid ar gyfer darparu cymwysterau yng Nghymru hefyd wedi’i rannu fel a ganlyn:

  • Cyn-16: Caiff rhan fwyaf yr arian ei rannu gan awdurdodau lleol
  • Ôl-16: LlCC sy'n gyfrifol am ariannu

Problemau gydag ariannu

Rydym am glywed oddi wrthych os yw eich canolfan yn cael problemau gydag ariannu ein cymwysterau. Ni ellir ein dal yn gyfrifol am benderfyniadau a wneir ynghylch ariannu addysg yng Nghymru, ond gallwn gysylltu â'r asiantaeth briodol ar eich rhan.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon, ymholiadau neu broblemau sy'n ymwneud ag ariannu ein cymwysterau.