Rydym yn trefnu cyfarfodydd gan Rwydweithiau amrywiol, dan arweiniad Dilyswyr Allanol ac Uwch Gymedrolwyr profiadol, er mwyn rhoi cymorth i ddarparwyr cymwysterau OCR.
Cynhelir y digwyddiadau hyn ddwywaith y flwyddyn yng ngogledd a de Cymru ac maent wedi'u bwriadu i helpu canolfannau i rannu arfer gorau. Mae'r rhwydweithiau hefyd yn rhoi cyfle i ganolfannau ymgysylltu â'i gilydd mewn awyrgylch hamddenol lle caiff pynciau eu trafod yn agored. Caiff cofnodion eu cymryd ym mhob digwyddiad a'u hanfon trwy'r e-bost yn uniongyrchol at y cynrychiolwyr ar ôl y cyfarfod. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y caiff y cofnodion eu hanfon at bartïon cyfrannog eraill.
Bwriwch olwg ar ein calendr cyfredol o ddigwyddiadau ac ar ein ffurflen archebu ar gyfer y Rhwydweithiau os gwelwch yn dda.