Polisi iaith

Mae nifer o'n cymwysterau ar gael yn Gymraeg. Os nad yw'r asesiad sydd ei angen arnoch ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â ni a bydd yn dda gennym gydweithio gyda chi er mwyn pwyso a mesur y posibilrwydd o greu fersiwn Cymraeg.

Wrth benderfynu a ddylid trefnu bod asesiad Cymraeg ar gael, bydd OCR Cymru'n ystyried tri pheth:

  1. A oes dewis arall eisoes ar gael yn Gymraeg?
  2. A oes tystiolaeth o'r galw am gael yr asesiad yn Gymraeg?
  3. A oes partner neu bartneriaid y gallai OCR gydweithio gyda hwy er mwyn gwneud yr asesiad Cymraeg yn gynaliadwy?

Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ)

Mae OCR Cymru'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y corff rheoleiddio, er mwyn darparu cymwysterau NVQ trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ymrwymedig i roi cefnogaeth i ymgeiswyr sydd am ennill cymwysterau NVQ trwy gyfrwng y Gymraeg, a byddwn yn darparu asesiadau yn Gymraeg pan ofynnir amdanynt.