Mae OCR Cymru'n cynnig yr ystod lawn o gymwysterau OCR, ac mae rhai o'r rhain ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Gweler ein polisi iaith am fwy o wybodaeth.
Yng Nghymru, mae’n rhaid bod cymwysterau wedi’u cymeradwyo gan y corff rheoleiddio, sef Llywodraeth Cymru, cyn iddynt gael cydnabyddiaeth eang ac, o dan rhai amgylchiadau, bod yn addas ar gyfer eu hariannu.
Mae cymhwyster a gymeradwywyd gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn ddilys i’w gyllido gan Awdurdod Addysg Lleol neu Lywodraeth Cymru.
Mae DAQW yn cynnwys manylion am bob cymhwyster a gymeradwyir i'w haddysgu yng Nghymru, gan gynnwys:
Os oes gennych ymholiad ynghylch cymhwyster sydd wedi (neu heb) ei restru ar y gronfa ddata hon yna mae croeso i chi ffonio John Adamson yn OCR Cymru ar 02920 537810.