Mae Bagloriaeth Cymru'n brosiect cyffrous ac mae OCR yn darparu cymorth uniongyrchol i nifer o'r canolfannau sy'n cymryd rhan er mwyn eu helpu i gyflawni'r prif gydrannau – Sgiliau Allweddol a TAG, TGAU neu Gymwysterau Cenedlaethol OCR.
Mae gan ein tîm o gymedrolwyr Sgiliau Allweddol sy'n ymweld â chanolfannau gryn brofiad o ddarparu cymorth sy'n helpu canolfannau i gyrraedd y prif nod – sef helpu'u dysgwyr i gael y cymwysterau sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o'r uchod, anfonwch neges e-bost at swyddfa OCR Cymru.