Gwasanaethau

Mae gennym dîm o arbenigwyr sy'n gweithio yng Nghymru gan ymdrin â'ch ymholiadau, a gallwn darparu gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid.

Gan fod gennym swyddfa yng Nghymru, rydym yn sensitif i'r elfennau sy'n chwarae rhan allweddol o safbwynt canolfannau yng Nghymru:

Cymorth i Gwsmeriaid

Rydym yn cydweithio'n agos gyda chanolfannau i ddarparu cymorth parhaus i gwsmeriaid. Mae gan OCR Cymru staff cymorth i gwsmeriaid wedi'u neilltuo sy'n gweithio ledled Cymru i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth ac ymgynghori personol yn uniongyrchol ar gyfer eich canolfan.

Darparu cymwysterau

Mae OCR Cymru'n gweithio gyda rhwydwaith o ymgynghorwyr, dilyswyr a chymedrolwyr sy'n darparu gwasanaeth ar gyfer pob canolfan yng Nghymru. Gall y gweithwyr proffesiynol hyn gynnig cyngor arbenigol ynghylch rheoli a darparu cymwysterau OCR yng Nghymru. Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwn gynnig y cymorth hwn yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Hyfforddiant

Rydym yn darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygu staff mewn nifer o leoliadau yng Nghymru. Gellir addasu'r hyfforddiant fel ei fod yn gweddu i'ch anghenion chi a'i gynnal mewn lleoliad o'ch dewis chi.

Gweler y dudalen hyfforddiant i gael mwy o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth ar unrhyw un o wasanaethau OCR Cymru, cysylltwch â ni a bydd yn dda gennym eich helpu.